Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 8
Ionawr 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(45 munud)
(45 munud)
(0 munud)
(15 munud)
NDM6912 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Tachwedd 2018.
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol
(15 munud)
NDM6911 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd 2018.
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol
(60 munud)
NDM6906 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi:
a) y pwysau ar wasanaethau cymdeithasol sy’n deillio o gyni a’r newid yn y boblogaeth;
b) yr adroddiad a gomisiynwyd oddi wrth yr Athro Gerald Holtham, ‘Talu am Ofal Cymdeithasol’; ac
c) bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp rhyngweinidogol ar ofal cymdeithasol, sy’n defnyddio adroddiad Holtham i lywio ei waith.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Darren Millar (Gorlloewin Clwyd)
Dileu is-bwynt a) a rhoi yn ei le:
'y pwysau ar wasanaethau cymdeithasol sy'n deillio o setliadau llywodraeth leol gwael a'r newid yn y boblogaeth;'
Gwelliant 2 – Darren Millar (Gorlloewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen am ffordd fwy integredig o ymdrin â'r ddarpariaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol.
(5 munud)
NDM6910 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol:
a) adrannau 2 – 4;
b) atodlen 1;
c) adrannau 5 – 9;
d) atodlen 2;
e) adrannau 10 – 26;
f) adran 1;
g) teitl hir.
(5 munud)
NNDM6904 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM6905 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 8 Ionawr 2019.
(15 munud)
NNDM6905 - Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno â’r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Mawrhydi benodi Jeremy Miles AC yn Gwnsler Cyffredinol.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 9 Ionawr 2019